Mae Llywodraeth Cymru wedi ailbwysleisio eu bod nhw am i bobl aros gartref dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywed hefyd bod rhai o’r adroddiadau sydd wedi ymddangos mewn papurau newydd Prydeinig ynghylch y lockdown yn “ddryslyd.”

“Cafodd y Cabinet gyfarfod bore ’ma i drafod cyfyngiadau’r lcokdown a bydd yna gyfarfod arall prynhawn ’ma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’n hanfodol bwysig bod pobl Cymru yn cael gwybodaeth glir a chywir ynglyn â unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r canllawiau aros gartref presennol.

“Mae’r rhai o’r adroddiadau sydd wedi ymddangos mewn papurau newydd y lockdown yn ddryslyd ac o bosib yn rhoi negeseuon cymysg i bobl ar draws y Deyrnas Unedig.

“Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi penderfyniad y Cabinet maes o law.”

“Gofalus iawn”

Yn y cyfamser, yn sgil arwyddion o densiynau gyda’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban, mae Boris Johnson wedi dweud y bydd yn gweithredu “ofalus iawn” wrth lacio’r cyfyngiadau.

Mynnodd Downing Street y byddai Prif Weinidog Prydain yn llacio’r rheolau ymbellhau cymdeithasol mewn ffordd “gyfyngedig iawn” pan fydd yn cyflwyno’i “fap ffordd” ar gyfer y ffordd ymlaen mewn anerchiad ddydd Sul.

Ffigurau diweddaraf

Ddydd Iau (7 Mai), dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfanswm o 10,062 o bobl wedi marw ar ôl profi’n bositif am coronafirus, sef cynnydd o 18 ers dydd Mercher.

Profodd 87 o bobl ychwanegol yn bositif am Covid-19, gan ddod â’r cyfanswm i 10,851.