Mae Bryn Terfel a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi dod at ei gilydd i ddathlu Diwrnod Arwyr Cymru drwy greu fersiwn newydd o’r gan Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech.

Mae’r gân yn cynnwys geiriau newydd gan y Prifardd Mererid Hopwood, sydd wedi ei hysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Prif neges y gân ar ei newydd wedd yw annog pobl i ddiolch i weithwyr allweddol am eu gwaith yn ystod yr argyfwng, ond hefyd ar ôl i’r argyfwng ddod i ben.

Dywed Mererid Hopwood ei bod hi’n bwysig cofio bod gwaith arwrol wedi bod yn digwydd ar y rheng flaen cyn i’r feirws ddechrau, a bydd y gwaith yma’n parhau wedi’r argyfwng.

Bu i Bryn Terfel recordio ei lais a fideo o’i gartref, tra bod pum aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd wedi recordio eu rhannau nhw yn eu cartrefi.

Dyma eiriau’r gân gan Mererid Hopwood.

 Arwyr Gwir ein Gwlad

 Wele Gymru’n brysio heno,

dod yn un i guro dwylo,

anrhydeddu’r llu diflino:

arwyr gwir ein gwlad;

 

Diolch am eu dewrder,

am eu gofal tyner,

diolch sydd a diolch fydd

Diolch yw ein cân.

 

Pan ddaw’r haul ar fryniau eto

a dim sôn am guro dwylo,

bydd fy nghalon innau’n cofio

arwyr gwir ein gwlad;

 

Diolch am eu dewrder,

am eu gofal tyner,

diolch sydd a diolch fydd

o nawr hyd ddiwedd amser;

Diolch yw ein cân.