Mae un o brif swyddogion iechyd Cymru wedi taflu rhywfaint o oleuni tros fethiant dêl profion Covid-19.

Cyn iddyn nhw gefnu ar eu targedau, roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio y byddai 9,000 o brofion Covid-19 yn cael eu cynnal yng Nghymru bob dydd.

Targed i’w gyrraedd erbyn diwedd Ebrill oedd hwnnw, ond methodd y Llywodraeth a’i gyrraedd ac erbyn hyn dim ond rhyw 2,100 sy’n medru cael eu cynnal yn ddyddiol.

Mae lle i gredu bod y targed wedi’i methu yn rhannol oherwydd methiant dêl rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni o’r Swistir, Roche.

Ac wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Senedd, mae Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi esbonio rhywfaint o’r hyn a ddigwyddodd.

“Dealltwriaeth”

Wrth ateb cwestiynau gan yr Aelod o’r Senedd, Rhun ap Iorwerth, dywedodd bod yna “ddealltwriaeth” rhwng Llywodraeth Cymru a Roche ynghylch y profion.

Cadarnhaodd hefyd y byddai’r cwmni wedi gallu darparu 5,000 prawf, ond bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig – neu asiantaeth ar eu rhan – wedi camu i mewn a rhwystro’r gobaith o ddod i gytundeb.

Roedd dyfalu ar y pryd bod gwasanaethau iechyd Lloegr a Chymru wedi bod yn cystadlu am y profion.

Ac ers methiant y dêl mae Cymru wedi bod yn derbyn cyfran o’i phrofion trwy drefniant ledled y Deyrnas Unedig.

“Dyna i gyd?”

Mae Roche wastad wedi gwadu yr oedd ganddyn nhw ddêl â Llywodraeth Cymru, ond mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi honni’r gwrthwyneb.

“Roedd gennym ddêl; dêl oedd gennym ni; gyda Roche,” meddai mewn cyfarfod llawn rhai wythnosau yn ôl.

Mae Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi ymateb i sylwadau’r Prif Weithredwr â beirniadaeth hallt.

“Dealltwriaeth?” meddai. “Ai dyna i gyd? Dim cytundeb neu ddêl fel gwnaeth y Prif Weinidog honni yn y siambr? A wnaeth e’ gamarwain y Senedd, hyd yn oed ar ddamwain?”

Mae’r pwyllgor yn parhau i glywed tystiolaeth.