Mae ychen-yr-afon wedi cael ei ddifa ar ôl i ddyn 57 oed farw mewn ymosodiad ar dri o bobol yn Sir Fynwy.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ym mhentref Gwehelog am oddeutu 2.50 brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 5).

Bu’n rhaid i ddyn 19 oed gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn ambiwlans awyr ar ôl cael yr hyn mae’r heddlu’n eu disgrifio fel “anafiadau difrifol iawn”.

Mae dynes 22 oed hefyd wedi cael anafiadau difrifol i’w choes, ac mae hi’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Mae cymydog yn dweud bod yr anifeiliaid ar y fferm yn aml yn y caeau gyda’r ceffylau, a bod yr anfeiliaid fel arfer yn eithaf tawel.