Dydy perchnogion ail gartrefi ddim yn gymaint o broblem â phobol sy’n teithio i ymweld â chefn gwlad ac ardaloedd arfordirol, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Roedd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ymateb i bryderon fod nifer sylweddol o bobol yn dal i deithio i’w hail gartrefi ac i lefydd ar lan y môr – er na ddylen nhw fod yn teithio oni bai bod gwir rhaid, fel rhan o gyfyngiadau’r coronafeirws.

Cafodd y mater ei drafod heddiw yn un o bwyllgorau’r Cynulliad, wrth iddi bwysleisio na fydd Llywodraeth Cymru’n newid y drefn, gan fod yr heddlu’n fodlon bod ganddyn nhw ddigon o bwerau i ymdrin â’r sefyllfa.

Daw’r neges gan Julie James wrth iddi dynnu sylw at achos dyn o Fryste oedd wedi cael ei stopio wrth deithio i Benrhyn Gŵyr.

“Rydyn ni wedi bod yn cydweithio ag awdurdodau lleol ar hyn hefyd,” meddai.

“Dydyn ni ddim am newid y rheoliadau gan fod yr heddlu’n fodlon fod ganddyn nhw’r pwerau sydd eu hangen arnyn nhw.

“Mae’r bobol hynny sy’n defnyddio ail gartefi ledled Cymru, wrth fod yn destun ymchwiliad, dw i ddim yn ymwybodol nad oedd ganddyn nhw ddim rheswm dilys am fod yno.

“Naill ai maen nhw wedi bod yn weithiwr brys neu wedi bod yn ynysu gan fod rhywun bregus yn ynysu yn eu prif gartref, neu mae ganddyn nhw reswm cwbl ddilys arall am fod yno.

“Fy nealltwriaeth i, o siarad ag awdurdodau lleol, yw nad oes yna niferoedd mawr ohonyn nhw chwaith.

“Mae yna broblem, o ofyn i rywun adael, fod y teithio’n fwy problematig na’u cael nhw’n aros.

“Does gyda ni ddim adroddiadau gan fyrddau iechyd ledled Cymru eu bod nhw dan bwysau ychwanegol o ganlyniad i niferoedd mawr o ddefnyddwyr ail gartrefi yno, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r materion sydd wedi’u hadrodd am bryderon pobol leol, ac rydyn ni’n cydweithio’n agos iawn â nhw i ddeall sut olwg sydd ar hyn, ac i barhau i adolygu’r rheoliadau.

“Mae’r awdurdodau’n glir iawn nad ydyn nhw eisiau’r grym i orfodi yn y maes yma, felly yr heddlu sy’n gweithredu’r rheolau.”

‘Peidiwch â theithio’

Yn ôl Julie James, mae Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar gyfleu’r neges na ddylai neb deithio i ardaloedd gwledig na glan môr.

“Rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar gyfleu’r neges, er bod rhannau helaeth o Gymru’n hardd iawn, efallai’n fwy hardd na rhai ardaloedd lle’r ydych chi’n byw, na ddylech chi fod yn teithio i’r ardaloedd mwy hardd hynny er mwyn aros mewn ail gartref neu, yn syml iawn, i fynd i weld yr olygfa.

“Yn lleol i mi, cafodd dyn o Fryste ei stopio’n ddiweddar, ddoe mewn gwirionedd, ar ôl dod i ymweld â Rhosili, felly mae’n deg dweud nad yw rhai pobol wedi derbyn y neges.”