Mae cwmni gwyliau Cottages.com sy’n rhentu bythynnod i bobl yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal wedi cael ei lambastio gan feddyg teulu o ogledd Cymru am roi “elw o flaen bywydau pobl.”

Mewn e-bost gan Is-lywydd y cwmni, Shelley D’Arcy at ei chwsmeriaid, mae’r cwmni yn annog perchnogion bythynnod i lobio Aelodau Seneddol lleol ynglŷn â chaniatáu pobl i ddod ar wyliau i’w hardaloedd lleol yn syth pan fydd y lockdown yn dod i ben.

“Does dim amser gwell na nawr i holi’ch Aelod Seneddol lleol i ddarparu syniad o sut y gallan nhw gyflawni hyn yn eich ardal a helpu adferiad yr economi leol,” meddai’r e-bost.

Mae meddyg teulu o ogledd Cymru wedi galw’r e-bost yn “warthus” ar ei gyfrif Twitter.

“Mae’r e-bost hwn gan @Cottages.com at eu cwsmeriaid yn hollol warthus,” meddai Dr Eilir Hughes.

“Cefais wybod amdano gan un ohonynt, sydd ofidus iawn am eich cymhellion corfforaethol amlwg i roi elw o flaen bywydau pobl.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Cottages.com am sylwad.