Bydd y gantores Katherine Jenkins yn perfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond oherwydd argyfwng y coronafeirws bydd Neuadd Frenhinol Albert yn wag a’r perfformiad yn cael ei ffrydio ar lein.

Dywedodd  Katherine Jenkins, sy’n dod o Gastell-nedd, ei bod hi’n bwysig nad oedd y pandemig yn taflu cysgod dros y dathliadau.

“Rwy’n hyderus y gallwn ddod at ein gilydd o hyd. Ar ôl bod yn rhan o ddigwyddiadau blaenorol, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i helpu i ddod â’r genedl a’r byd ynghyd i gofio a dathlu ar yr adeg anodd yma.

“Am y tro cyntaf bydd y Neuadd Frenhinol yn wag, yn ynysig ac eto’n syfrdanol o odidog.”

Yn wreiddiol, roedd y gantores i fod i gymryd rhan mewn cyngerdd Diwrnod VE i ddathlu 75 mlynedd ers diwedd y rhyfel a fyddai’n cael ei ffrydio’n fyw i 450 o sinemâu, fodd bynnag mae hyn wedi’i ohirio tan fis Medi oherwydd y coronafeirws.

“Cerddoriaeth yn ein huno”

 Mae’r gyngerdd ar-lein wedi ei drefnu gan Faer Llundain Sadiq Khan, ac yn codi arian ar gyfer elusen y lluoedd arfog.

Dywedodd Sadiq Khan: “Mae cerddoriaeth yn ein huno trwy gyfnodau o galedi ac mae’r cyngerdd hwn y tu ôl i ddrysau caeedig yn dangos ysbryd Prydeinig o oresgyn heriau, ac yn gyfle i gofio’r rhai a wasanaethodd ein gwlad ac a gollodd eu bywydau.”

Bydd y cyngerdd yn cael ei ffrydio ar wefan Neuadd Frenhinol Albert nos Wener, Mai 8.