Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mai 2).

Cafodd dyn 35 oed anafiadau difrifol mewn ffrwgwd am oddeutu 3 o’r gloch.

Cafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl hynny, a chafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond does dim lle i gredu bod ei fywyd mewn perygl.

Mae e mewn cyflwr sefydlog erbyn hyn.

Mae dau ddyn, 32 a 37 oed, wedi’u harestio ynghyd â dynes 32 oed, ac mae’r tri yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw gynnal yr ymchwiliad.