Adam Price yw’r gwleidydd diweddaraf i alw am gyhoeddi adroddiad ymchwiliad Cygnus i effaith ffliw H2N2.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn dilyn ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig yn y Senedd sy’n datgelu bod gan Lywodraeth Lafur Cymru gopi o’r adroddiad.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal fis Hydref 2016 er mwyn mesur effaith pandemig ffliw H2N2 pe bai’n cyrraedd gwledydd Prydain.

Mae Jonathan Ashworth, yr aelod seneddol Llafur, yn galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i gyhoeddi’r un wybodaeth yn dilyn yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel “cwestiynau difrifol”.

Mae gweinidogion San Steffan wedi’u cyhuddo o gelu’r adroddiad sy’n dangos diffygion yn y camau sydd wedi’u cymryd er mwyn bod yn barod ar gyfer pandemig.

‘Er budd y cyhoedd’

“Rydym yn gwybod fod gan Lywodraeth Cymru gopi o gasgliadau Ymarfer Cygnus – mae’n rhaid iddyn nhw gyhoeddi ei argymhellion nawr,” meddai Adam Price.

“Yn union fel y dywedodd cydweithiwr y prif weinidog yn y Blaid Lafur, mae’r cyhoedd yn haeddu gwybod ac mae angen iddyn nhw wybod beth ddigwyddodd yn y prawf hwn fel y gallwn ni ddysgu’r gwersi i’n helpu ni nawr.

“Mae angen i ni wybod pa gamau’n union gymerodd Llywodraeth Cymru i gynllunio’n well ac i baratoi ein Gwasanaeth Iechyd ar gyfer pandemig anochel yn wyneb yr adroddiad a’i gasgliadau.

“Nid yn unig y mae hyn er budd y cyhoedd, ond mae hefyd er budd y cyhoedd iddyn nhw wybod pa gamau gymerodd Llywodraeth Cymru yn nhermau cyfarpar diogelu, isadeiledd profi, offer allweddol a pha mor barod oedden nhw’n gyffredinol ar gyfer pandemig byd-eang.

“Byddai’n hynod ragrithiol pe bai Llafur yn dweud un peth yn San Steffan, ond yn gwneud rhywbeth arall yng Nghymru lle mae ganddyn nhw’r capasiti i wneud hynny.

“Gobeithio y bydd y prif weinidog yn gwrando ar ei gydweithwyr ac yn gwneud y peth cyfrifol a chyhoeddi casgliadau’r adroddiad Cygnus wnaethon nhw ei dderbyn.”