Mae mwy nag 11,000 o darianau wyneb wedi’u cynhyrchu ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio yn ne a gorllewin Cymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe fu cynllun yr Amman Valley MakerSpace (AVMS) yn cydweithio â Dr Dimitrios Pletsas o Brifysgol Abertawe i’w dylunio.

Mae oddeutu 40 o ffermydd argraffu ar draws tair sir bellach yn cynhyrchu tarianau wyneb, sydd wedi pasio profion clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Ysbyty Tywysog Phillip, Ysbyty Glangwili, Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton eisoes wedi derbyn tarianau.

Bydd staff fferyllfeydd lleol a thimau nyrsio’r ardal hefyd yn eu gwisgo.

Mae modd ail-ddefnyddio’r tarianau, ac maen nhw’n fioddiraddadwy ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

Heriau

“Mae coronafeirws wedi cael effaith fawr ar fywydau pawb ac yn parhau i gyflwyno heriau na welwyd mo’u tebyg,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld y gorau mewn pobol, busnesau a sefydliadau sy’n gwneud mwy na sydd rhaid iddyn nhw i geisio goresgyn yr heriau.”

“Mae’r fenter hon wedi dangos gwir werth cydweithio ac arloesi ar draws y sector,” meddai Robert Venus, sy’n rheoli cynllun Amman Valley MakerSpace yn Nyffryn Aman.

“Mae wedi dangos pa mor hanfodol yw creadigrwydd, dylunio, peirianneg a sgiliau creu i les unigolyn yn ogystal ag i’r gymdeithas yn gyffredinol.”