Mae sefyllfa’r Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2021, “yn y gwynt”, yn ôl Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

Fel y mwyafrif o ddigwyddiadau eraill, fe fydd yn ddibynnol ar frechlyn yn cael ei ddatblygu i ddelio â’r coronafeirws, meddai.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd fod i gael ei chynnal yn Nhregaron fis Awst eleni, ei gohirio tan y flwyddyn nesaf oherwydd y coronafeirws.

Mewn cyfweliad â Bro360, roedd arweinydd y Cyngor Sir yn ateb cwestiynau gan bobol o Geredigion am ymateb y sir i’r coronafeirws.

Pryderon

Eglurodd Ellen ap Gwynn ei bod hi’n pryderu na fydd modd cynnal digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol tan fod bygythiad y coronafeirws wedi lleihau.

“Dwi’n ofni na fydd digwyddiadau o raddfa fawr yn cael eu cynnal hyd nes bydd y bygythiad yma o gael ail don, a hyd yn oed trydydd ton, wedi cael eu lleddfu,” meddai.

Yn ôl llywodraethau ledled y byd, digwyddiadau mawr fel gwyliau, cyngherddau a chwaraeon byw fydd y pethau olaf i gael eu caniatáu.

“Efallai bydd rhaid i ni fod yn fwy creadigol,” meddai.

“Mae Eisteddfod yr Urdd eisoes wedi gwneud hyn, sydd am gynnal ‘Eisteddfod T’ ar y cyfryngau er mwyn dygymod â’r diffyg cyd gyfarfod.”

Gobaith o ailgydio yn y cymdeithasu

Er nad yw Ellen ap Gwynn yn cytuno mai codi gobeithion pobol oedd yr Eisteddfod yn ei wneud drwy ail drefnu’r Brifŵyl, mae hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig fod gan bobol rywbeth i edrych ymlaen ato.

“Mae rhaid i ni gael rhywfaint o obaith yn y cyfnod yma, a rhywbeth i edrych ‘mlaen ato.

“Mae’r gwaith paratoi wedi ei wneud yn barod felly dwi wir yn gobeithio bydd bob dim yn iawn erbyn hynny er mwyn i ni ail gydio yn y cymdeithasu.”