Mae cwmni yn y gogledd wedi ei longyfarch gan Lywodraeth Cymru am fynd â hufen iâ am ddim i ysbytai a chartrefi gofal.

Ers i’r cyfyngiadau presennol ddod i rym yn sgil y pandemig coronafeirws, mae perchennog Parlwr Hufen Iâ Red Boat ym Môn wedi bod yn cludo potiau o’u hufen iâ ledled y gogledd, rhag iddo fynd yn wastraff.

Dywed y cwmni eu bod am roi gwên ar wynebau gweithwyr allweddol.

Sefydlwyd y busnes hufen iâ yn 2009 ac maen nhw yn cyflogi wyth o staff, sydd ar ffyrlo yn sgil yr argyfwng.

Maen nhw hefyd wedi rhoi hufen iâ am ddim i un o ganolfannau’r heddlu ar Ynys Môn.

“Trît mewn cyfnod anodd”

“Roedd gennyn ni ddigon o’n hufen iâ a sorbedau gelato yn barod ar gyfer y gwanwyn a thymor twristiaid yr haf, ac felly yn lle eu bod yn eistedd yn y rhewgell heb eu bwyta, penderfynon ni eu rhoi i’r ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal ledled gogledd Cymru,” meddai Tony Green, perchennog Parlwr Hufen Iâ Red Boat.

“Rydyn ni eisiau lledaenu hapusrwydd drwy’r gymuned i’r holl bobl sy’n gweithio’n galed, gwneud i bobl deimlo’n well a rhoi trît iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Dywedodd y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae’n hyfryd gweld cwmnïau fel Hufen Iâ Red Boat yn cefnogi ein cymunedau drwy gynnig cyflenwadau dros ben o’u cynhyrchion i weithwyr gofal iechyd a chleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn.”