Mae’r newyddiadurwr a darlledwr, Huw Edwards, wedi datgelu iddo fod yn absennol o’r gwaith ar ôl profi’r hyn mae’n amau oedd yn coronafeirws.

Mewn darn i gylchgrawn Barn mae’n dweud iddo deimlo’n anhwylus yn ystod taith gerdded yn Swydd Gaint ym mis Mawrth.

Yn sgil hynny dechreuodd “brofi effeithiau niwmonia”, ac mae’n dweud bod ei feddyg wedi bod yn “gwbl argyhoeddedig mai Covid-19 oedd wrth wraidd y peth”.

Doedd y darlledwr BBC ddim wedi derbyn prawf ffurfiol, ac mi ddychwelodd i’r gwaith wedi tair wythnos o orffwys.

Trafod y BBC

Yn ei ddarn, mae Huw Edwards hefyd yn sôn am gyflwr y BBC ac yn nodi bod dyfodol ariannol y gorfforaeth “yn gwbl fregus ac yn anniogel ar hyn o bryd”.

Mae’n dweud ei bod yn “hoff darged i benboethiaid y chwith a’r dde” ac mae’n pendroni a fydd agweddau yn newid ar ben draw’r coronafeirws.

“Tybed a fydd yr elyniaeth amlwg – ar y dde a’r chwith – yn newid yn sgil yr argyfwng?” meddai. “Go annhebyg. Gwas chwipio cyfleus i wleidyddion o bob lliw fu’r BBC erioed.”