Yn ystod cyfarfod llawn o’r Senedd, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod “dim gwerth” profi pawb mewn cartrefi gofal.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn gan Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae tystiolaeth glinigol ddiweddaraf yn dweud wrthym nad oes gwerth mewn cynnig profion i bawb mewn cartrefi gofal.”
Daeth cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bore ’ma nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad dilyn yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr a phrofi holl staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal.
Dim ond rheini sydd yn dangos symptomau sydd â hawl i brawf tebyg mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Dywedodd Mark Drakeford fod gweithwyr allweddol yn cael eu profi yn barod a bod capasiti profi yng Nghymru yn parhau i dyfu gyda nifer y profion dyddiol sydd bellach ar gael wedi codi i 2,100.
Dilyn tystiolaeth glinigol
“Rydym yn cynnig profion i bobol ble mae’r dystiolaeth glinigol yn dangos ei bod hi’n gywir i ni wneud hynny.”
“Er mwyn i brofion fod yn ddibynadwy byddai rhaid profi pobol sydd heb symptomau heddiw, eto fory.
“Mae modd mynd o beidio cael symptom i gael symptomau mewn 24 awr.
“Byddai defnyddio’r capasiti sydd gennym i brofi pawb yn dargyfeirio ble mae’n werth gwneud hynny yn glinigol.”
Ychwanegodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector gofal i ddatblygu’r system brofi mewn cartrefi gofal lle mae achosion o’r coronafeirws.
Siomedig
Wrth ymateb, dywedodd Paul Davies, ei fod yn “siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â phrofi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal.
“Trwy wneud hyn mae’r llywodraeth yn anfon y neges anghywir i bobol yng Nghymru nad yw profion cymunedol yn bwysig.”