Bydd gwefan i drefnu apwyntiadau profion coronafeirws ar gyfer gweithwyr allweddol yng Nghymru yn mynd yn fyw cyn ddiwedd yr wythnos.

Ar ôl cael ei dreialu’r wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru, bydd y system ar-lein yn cael ei lansio ar gyfer rheini sydd am drefnu prawf yng nghanolfannau profi Caerdydd a Chasnewydd i ddechrau, a’r bwriad yw ymestyn y system i ganolfannau profi eraill yng Nghymru yn fuan.

Yn ystod cynhadledd ddyddiol i’r wasg ddydd Mercher, dywedodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru: “Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr fod pobol a’r cyfle gorau i gael eu profi.

“Bydd y system ar lein newydd yn dechrau cael ei gyflwyno yn y dyddiau nesaf.”

Mae 438,000 o weithwyr allweddol yng Nghymru sy’n cymwys ar gyfer y system apwyntiadau profion newydd gan gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, gweithwyr carchar ac athrawon.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, gondemnio Llywodraeth Cymru am gael gwared ar ei tharged o gynnal 5,000 o brofion coronafeirws bob dydd.

Honnodd Dominic Raab fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud cynnydd da ar brofion ond bod angen “dweud wrth Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, sydd wedi cefnu ar darged Llafur yng Nghymru o 5,000 o brofion, bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ym mhedair cornel y Deyrnas Unedig er mwyn cyflawni’r ymdrech genedlaethol.”