Wrth siarad ar BBC Radio Wales y bore ’ma mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad dilyn yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr a phrofi holl staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal.
Dim ond rheini sydd yn dangos symptomau sydd â hawl i brawf tebyg mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Dywedodd Vaughan Gething: “Na, byddwn ni ddim yn dilyn Lloegr gan ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi lle rydym ni’n sefyll o ran ein polisi.
“Yng Nghymru rydym ni’n profi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal sydd yn dangos symptomau.
“Mae’r cyngor rydw i wedi ei gael gan y Prif Swyddog Meddygol yn glir, er mwyn gwarchod adnoddau ni ddylem fod yn profi pawb yn y sector.
“Gall canlyniad prawf sydd wedi ei wneud yn y bore fod yn wahanol i brawf sydd wedi ei wneud yn ddiweddarach. Beth yw’r pwrpas gwneud hynny?
“Os bydd tystiolaeth bellach yn codi, byddwn yn ailasesu ble rydym ni’n sefyll o ran ein polisi.”
Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Lloegr, Matt Hancock, ddoe y byddai profion ar gyfer y coronafeirws ar gael i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr o heddiw ymlaen, p’un a ydynt yn dangos symptomau o’r firws ai peidio.
Traean o farwolaethau yn y sector gofal
Bellach mae traean o farwolaethau oherwydd y coronafeirws yng Nghymru wedi eu cofnodi yn y sector gofal.
Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Iechyd Lloegr mae Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, sy’n cynrychioli bron i 500 o ddarparwyr gofal cymdeithasol annibynnol, wedi galw ar Vaughan Gething a Llywodraeth Cymru i ddilyn polisi profi Lloegr er mwyn arbed bywydau.
Mae ffigurau marwolaethau coronafeirws yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, sydd yn cynnwys y rhai fu farw yn eu cartrefi, mewn cartrefi gofal ac mewn hosbisau, ac nid dim ond mewn ysbytai, mae nifer y marwolaethau 61% yn uwch na ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru.