Mae ffigurau marwolaethau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau 61% yn uwch na ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y ffigwr swyddogol hyd at Ebrill 17 – gan gynnwys y rhai oedd wedi’u cofrestru hyd at Ebrill 25 – oedd 1,016.

Ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, 632 o bobol yw’r ffigwr.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau hefyd yn cynnwys y rhai fu farw yn eu cartrefi, mewn cartrefi gofal ac mewn hosbisau, ac nid dim ond mewn ysbytai.

Y sefyllfa yn Lloegr

Mae yna wahaniaeth sylweddol yn ffigurau Lloegr hefyd.

Ond yn y fan honno, mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau’n cynnwys unrhyw sôn am y coronafeirws ar dystysgrifau marwolaeth, gan gynnwys achosion tybiedig, yn ogystal â ffigurau marwolaethau yn y gymuned.

Mae cyfanswm o 24,243 o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng ngwledydd Prydain, yn ôl ffigurau marwolaethau sydd wedi’u cofrestru.

Cafodd 22,351 o farwolaethau coronafeirws eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr hyd at Ebrill 25.

1,616 yw’r ffigwr yn yr Alban hyd at Ebrill 19, tra bod 276 o farwolaethau yng Ngogledd Iwerddon hyd at Ebrill 22.