Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro Steven Edwards, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi marw’n dilyn salwch byr.

Roedd yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd cyn ymddeol yn ddiweddar.

Roedd hefyd yn ymchwilydd uchel ei barch ym maes athroniaeth a moeseg iechyd.

Yn frodor o Salford ger Manceinion, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg cyn mynd yn ei flaen i gyhoeddi erthyglau ymchwil ac ysgrif ar gyfer y cyfnodolyn Efrydiau Atronyddol yn yr e-gyhoeddiad Gwerddon, yn ogystal ag ysgrif ar ‘Newyddion Ffug’ yn y gyfrol Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio fel rhan o’r gyfres Astudiaethau Athronyddol.

Ymhlith ei brif ddiddordebau academaidd roedd diogelu plant wrth eu gwneud yn destun ymchwil clinigol, y dadleuon dros ddarparu canolfannau cefnogi hunanladdiad, ac fe gyfrannodd bapur briffio i Lywodraeth Cymru ar ystyriaethau moeseg wrth gynaeafu organau’n ddi-ofyn.

Yn fwyaf diweddar, roedd yn diwtor Cymraeg yn y brifysgol, ac yn wirfoddolwr gweithgar a phoblogaidd yng Nghanolfan Tŷ Tawe.

Roedd hefyd yn adnabyddus fel canwr mewn band pync ar y sîn leol ym Manceinion yn y 1980au.

‘Colli presenoldeb’

Wrth dalu teyrnged, dywed Academi Hywel Teifi ei fod e wedi “cefnogi eraill i ddysgu’r iaith ac elwa o’i chyfoeth fel y gwnaeth ef”.

“Yn ŵr hynaws a hynod ddeallus, bydd colli presenoldeb tawel a doeth Steve i’w deimlo’n fawr gan staff yr Academi.

“Byddwn yn cofio’n annwyl iawn amdano ac anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at Jane [ei wraig] a’i deulu.”

 ‘Cyfaill annwyl’

Mewn teyrnged arall, dywed Canolfan Tŷ Tawe ei fod yn “gyfaill annwyl i Ganolfan Tŷ Tawe, yn aelod o gymuned Gymraeg Abertawe ac yn ffrind hoffus i nifer lawer”, ac y byddai “colled fawr ar ei ôl”.

“Yn ddiweddarach, wedi iddo ymddeol fel Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mi ddechreuodd wirfoddoli yn Siop Tŷ Tawe gan ail-gydio mewn tiwtora i Ddysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

“Daeth ei wyneb yn gyfarwydd i lawer eto wrth iddo wasanaethu y tu ôl y cownter ac yn y Siop Siarad [bore coffi] yn ei fodd amyneddgar, pwyllog.

“Er na fyddai’n un i frolio, roedd Steve yn ddyn o amryw ddoniau – yn gerddor pync ym Manceinion yr 80au ac yn arbenigwr academaidd ym moesoldeb meddygol.

“Roedd ei gariad at yr iaith ynghlwm â’i ddealltwriaeth o athroniaeth J.R. Jones a’i werthfawrogiad o lenyddiaeth Kate Roberts.

“Ond mi gofiwn ef yn bennaf oll fel dyn hoffus, caredig oedd wastod yn barod i wrando ac i gynnig cymorth.

“Cofiwn ef a’i rinweddau yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Anodd iawn fydd ail-agor drysau Tŷ Tawe wedi’r argyfwng heb ei gwmni hael.

“Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf i’w wraig Jane a’r teulu yn eu profedigaeth. Cysga’n dawel Steve.”