Fe fydd Cymru’n derbyn cyfarpar diogelu hanfodol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28), wrth i nwyddau gyrraedd maes awyr Caerdydd o Cambodia.

Bydd hediad arbennig yn cludo 200,000 o ddillad gwrth-hylif i faes awyr y brifddinas, yr hediad cyntaf o ddau yr wythnos hon.

Fe fydd cyfanswm o 660,000 o ddillad wedi cyrraedd Cymru erbyn i’r ail hediad o Tsieina gyrraedd.

Daw’r newyddion ar ôl i long o Tsieina gyrraedd Cymru ddydd Sadwrn (Ebrill 25), yn cario deg miliwn o fygydau.

Croesawu’r nwyddau

Mae nifer o wleidyddion yng Nghymru wedi croesawu’r newyddion.

“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod ni’n parhau i gyflenwi’r math cywir o gyfarpar diogelu i Gymru,” meddai Mark Drakeford, y prif weinidog.

“Mae’r coronafeirws wedi rhoi cyflenwadau dan bwysau o amgylch y byd.

“Mae’r hediad heddiw’n ganlyniad llawer o waith caled y tu ôl i’r llenni i sicrhau cyflenwadau newydd o ddillad ar gyfer ein gweithwyr rheng flaen.

“Hoffwn ddiolch i faes awyr Caerdydd, y filwriaeth a’r heddlu am eu cymorth gyda chludo cyfarpar diogelu, a fydd yn helpu i warchod ein staff iechyd a gofal rheng flaen.”

Yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, mae maes awyr Caerdydd yn “strategol bwysig i Gymru a’i heconomi”.

Yn ôl Deb Bowen Rees, prif weithredwr maes awyr Caerdydd, mae’r maes awyr yn barod o hyd i dderbyn nwyddau, ac yn “edrych ymlaen” at y cyfnod pan fydd hediadau masnachol yn bosib eto.