Mae Rhys Ifans yn dweud ei fod yn “torri calon” wrth feddwl am weithwyr iechyd a gweithwyr gofal yn gorfod trin cleifion y coronafeirws heb y cyfarpar diogelu cywir i’w cadw nhw’n ddiogel.

Daw’r neges mewn fideo i gefnogi gwaith Tarian Cymru, mudiad gwirfoddol sy’n codi arian i brynu’r cyfarpar sydd ei angen, ac mae’r elusen wedi derbyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd sawl wyneb cyfarwydd o Gymru yn cefnogi’r ymgyrch:

  • rhyddhawyd cân gan Carwyn Ellis (Colorama, Rio 18),
  • EP gan Gareth Bonello
  • mae’r grŵp pop Eden newydd ryddhau cân mewn fideo ar Facebook
  • dros y Sul, cafodd dros £3,400 ei godi mewn ocsiwn o luniau, barddoniaeth a gwyliau a roddwyd am ddim er mwyn cefnogi’r achos.

Mae grwpiau a sefydliadau hefyd wedi rhoi yn hael, gan gynnwys y Barry Horns, Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Angen “ymateb yn gyflym”

Mae Tarian Cymru eisoes wedi codi dros £37,000 er mwyn diogelu gweithwyr y sectorau iechyd a gofal, gyda tharged o godi £50,000.

“Mae £14 yn prynu cit Covid-19 sylfaenol i un gweithiwr iechyd” meddai Rhys Ifans yn y fideo.

“Mae pob ceiniog sy’n cael ei godi i Tarian Cymru yn mynd tuag at brynu PPE o ansawdd meddygol sy’n cael ei ddosbarthu yn syth i ddwylo gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal Cymru.

“Fe allwn ni wneud gwahaniaeth os ydyn ni’n ymateb yn gyflym.

“Mae pob rhodd dych chi’n ei roi i Tarian Cymru yn achub bywydau yng Nghymru.”