Yn ôl adroddiadau, mae Prif Weithredwr Airbus wedi dweud wrth ei weithwyr fod y cwmni yn colli arian ar “raddfa ddigynsail” oherwydd y cwymp yn y galw am deithiau mewn awyrennau o ganlyniad i’r coronafeirws.

Cyhoeddodd Guillaume Faury y rhybudd hwn mewn llythyr at y gweithwyr ddydd Gwener, Ebrill 24.

Mae disgwyl i’r cwmni gyhoeddi eu canlyniadau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ddydd Mercher, ond meddai yn ei lythyr:

“Rydyn ni’n godro arian ar raddfa heb ei thebyg o’r blaen.”

“Gall hyn fygwth bodolaeth ein cwmni,” meddai, ac ychwanegodd fod yn rhaid iddyn nhw “weithredu ar frys” er mwyn gallu goroesi.

Mae Airbus yn cyflogi 13,500 o bobl drwy Brydain, gan gynnwys Brychdyn yn Sir y Fflint a Filton ym Mryste. Ond ar ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Airbus eu bod am wneud toriadau mewn cynhyrchu awyrennau i oddeutu traean.