Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyllid i helpu i leihau’r amser sydd ei angen i ddiheintio ambiwlansys ar ôl iddyn nhw gludo claf sydd o bosib yn dioddef o Covid-19.

Roedd Prifysgol Abertawe ymysg y deuddeg cais ar y brig i gael cyllid, a bwriad myfyrwyr y brifysgol yw helpu i gwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau ambiwlans o 45 munud i lai na 20 munud.

Dan arweiniad Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr her oedd cwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau cerbyd yn drylwyr a’i gael yn ôl ar y ffordd cyn gynted â phosib.

Llwyddodd y Brifysgol i ddyfeisio a datblygu system mewn llai na phythefnos, ac roedd diddordeb aruthrol yn yr her, gyda dros 200 o systemau yn cael eu cynnig o bob cwr o Brydain.

Arbrofi

Bydd system Prifysgol Abertawe yn profi triniaeth newydd i ryddhau nwy yn sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared â Covid-19 o arwyneb yr ambiwlans a’r aer mewn llai nag ugain munud, heb fod angen i berson orfod gwneud y gwaith glanhau.

Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno’r system i wasanaethau golau glas eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty.

“Ar flaen y gad”

“Mae’n prifysgolion a’n colegau wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws gan anfon doctoriaid a nyrsys i reng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ymuno â’r frwydr ryngwladol i ddod o hyd i wellhad,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n edrych ar sawl llwybr i guro’r coronafeirws. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae’r gystadleuaeth hon yn dangos bod modd ymateb yn arloesol i sefyllfaoedd o argyfwng.

“Rwy’n falch bod prifysgol o Gymru wedi cyrraedd cam cyllido’r gystadleuaeth, gan ddangos sut gall ein prifysgolion roi eu harbenigedd academaidd ar waith wrth wynebu’r heriau mwyaf sydd o’n blaen.”

Dywedodd Dr Chedly Tizaoui, peiriannydd cemegol a Phrif Ymchwilydd y prosiect: “Mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch o gael gweithio gyda chymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i ddarparu ateb cyflym posib ar gyfer glanhau ambiwlansys. Mae’n gyfle gwych i ni helpu gwasanaethau rheng flaen a’n cydweithwyr Iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”