Daethpwyd o hyd i gorff gwr 26 oed wrth ymyl ei feic modur ar lwybr beicio yng Nghei Conna, Sir y Fflint.

Daethpwyd o hyd i’r corff yn gorwedd yn Ffordd y Porthladd am bump o’r gloch y bore ond dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw’n amau bod trosedd wedi ei chyflawni.

Mae’n debyg bod y gwr yn byw yn lleol ac mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd ar y gweill.