Mae deg o bobol o Lundain wedi cael eu harestio ar ôl teithio i ardal Bethesda.
Yn ôl Heddlu’r Gogledd, roedden nhw’n teithio mewn dau gar ar eu ffordd i gerdded yn Eryri.
Dywed yr heddlu mewn neges ar Twitter iddyn nhw ddweud wrth y bobol am “fynd adref ar unwaith”, a’u bod nhw wedi cael eu tywys i’r A55.
Cawson nhw eu riportio am dorri rheolau COVID-19, meddai’r heddlu.