Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol yn galw am gyhoeddi’r adroddiad i 84 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws na chafodd eu hadrodd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fe fu’r 84 farw rhwng Mawrth 20 ac Ebrill 22, ond doedden nhw ddim wedi’u cynnwys ymhlith y ffigurau dyddiol.

Roedd tabl ar ddydd Mercher yn dangos mai dim ond 13 o farwolaeth oedd wedi’u cofnodi yn ardaloedd y gogledd, Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (oll gyda’i gilydd).

Heddiw mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 88 wedi marw yn y gogledd yn unig, ac 84 o’r rheiny wedi digwydd rhwng Mawrth 20 ac Ebrill 22, ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch pam y bu oedi wrth eu cyhoeddi.

‘Rhoi sicrwydd’

Yn ôl Mark Isherwood, roedd y bwrdd iechyd yn dweud ar y pryd mai “materion a gafodd eu cofnodi yn ein system adrodd” oedd ar fai am y ffaith na chawson nhw eu hadrodd ar y pryd.

“Mae’r prif weinidog wedi dweud y bydd e’n derbyn yr adroddiad yfory,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ogledd Cymru.

“Er mwyn rhoi sicrwydd i bobol yng Nghymru, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gyhoeddi’r adroddiad hwn ac am weithredu er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, ac na all hyn ddigwydd eto.

“Rydym hefyd yn galw am eglurhad ynghylch sut y digwyddodd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.