Llys y Goron, Abertawe
Cafodd gwr ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Abertawe y bore yma ar gyhuddiad o yrru’n beryglus ar ôl i gar fod mewn gwrthdrawiad efo car yr heddlu ger Eglwys Sant Mathew yn Abaty Nedd fore Mawrth diwethaf.

Mae plismon yn dal yn yr ysbyty yn diodde o anafiadau difrifol i’w gefn yn dilyn y gwthdrawiad.

Cafodd y gwr 45 oed ei arestio ddoe a’i gyhuddo heddiw hefyd o yrru tra wedi ei wahardd, ymosod gan achosi niwed corfforol, defnyddio cerbyd heb yswiriant a dau achos o fwrgleriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru y bydd y gwr yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 8 Tachwedd.