Mae pryderon am ddyn 45 oed sydd ar goll o Gaerdydd.

Does neb wedi gweld David Williams o ardal Radur ers tua 10.15 fore ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 25).

Ar y pryd, roedd e’n cerdded allan o’i gartref, ac yn gwisgo trowsus a chrys llwydfelen.

Mae’n 5’8”, o gorffolaeth ganolig a chanddo wallt brown syth at ei ysgwyddau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.