Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio y bydd presenoldeb plismyn yn amlwg iawn ar ffyrdd y penwythnos yma i geisio sicrhau bod perchnogion tai haf yn cadw draw.

Daw hyn yn sgil pryderon cynyddol y bydd y tywydd braf yn denu rhagor o bobl i gefn gwlad ar ôl i’r tymheredd uchaf ym Mhrydain o 23.2 gradd C gael ei gofnodi ym Mhorthmadog ddoe.

“Nid nawr yw’r adeg i bobl deithio i ogledd Cymru i ymarfer corff yn ein cymunedau lleol neu ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri,” meddai Carl Foulkes.

“Nid yw teithio i’ch ail gartref yn rhesymol, byddwn yn eich stopio chi, byddwn yn eich anfon adref, ac os bydd angen byddwn yn erlyn.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud gwaith anhygoel yn cadw pobl yn saff, ond bydd cynyddu poblogaeth yr ardal yn rhoi baich afresymol arnyn nhw.

“Byddwn yn gweithredu mewn modd amlwg iawn ar ein rhwydwaith ffyrdd ac mewn trefi a phentrefi i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau.”

Daw ei rybudd ar ôl iddi ddod i’r amlwg am y tro cyntaf ddoe fod 88 o bobl wedi marw o’r coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd. Roedd y nifer hwn yn cynnwys 84 a fu farw yn ystod y mis diwethaf ac na chafodd eu hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru tan ddoe.

Wrth ategu galwad y Prif Gwnstabl, meddai Simon Dean, prif weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd:

“Meddyliwch am y bobl rydym eisoes wedi eu colli a dilynwch ganllawiau’r llywodraeth i aros adref i’n helpu ni i rwystro lledaeniad y feirws.”