Mae bellach wedi dod i’r amlwg bod 84 wedi marw â Covid-19 yn ysbytai’r gogledd yn ystod y mis diwetha’ – swm sylweddol uwch na’r ffigwr swyddogol hyd at heddiw.
Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod 88 o bobol wedi marw o’r coronafeirws yn ysbytai’r gogledd, ac mae’n debyg bod 84 o’r rhain heb eu cofnodi tan heddiw.
Daw hyn wedi i gylchgrawn Golwg dynnu sylw at y lefel isel o farwolaethau wedi eu cofnodi yn y gogledd gan y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddechrau’r wythnos.
Roedd tabl ar ddydd Mercher yn dangos mai dim ond 13 o farwolaeth oedd wedi’u cofnodi yn ardaloedd y gogledd, Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (oll gyda’i gilydd).
Heddiw mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 88 wedi marw yn y gogledd yn unig, ac 84 o’r rheiny wedi digwydd rhwng Mawrth 20 ac Ebrill 22, ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch pam y bu oedi wrth eu cyhoeddi.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.
Galw am esboniad
Mae Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, wedi rhannu ei gofidion am y sefyllfa, ac wedi galw am esboniad.
“Mae’n fy mhryderu mai dim ond yn awr mae’r nifer sylweddol yma o farwolaethau oddi fewn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (bwrdd y gogledd) yn dod i’r fei,” meddai.
“Mae angen esboniad arnom yn syth, gan y bwrdd iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Llywodraeth Cymru ynghylch pam bod hyn wedi cael ei than adrodd am fis.
“Mae cynnig darlun llawn o’r achosion yn allweddol er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn dal i hyderu ynom, ac fel bod gweinidogion yn gwybod sut i wneud penderfyniadau hollbwysig wrth lacio’r lockdown.”
Ymateb Bwrdd Iechyd y gogledd
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd y Gogledd:
“Adroddwyd yn gyhoeddus ar fanylion nifer y marwolaethau yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf heddiw.
“Oherwydd problemau a ganfuwyd yn ein system adrodd, mae diweddariad heddiw yn cynnwys croniad o achosion lle bo claf wedi marw gan brofi’n bositif am COVID-19 ar yr un pryd.
“Mae’r holl ddata’n ymwneud ag achosion COVID-19 a marwolaethau wedi’i gofnodi’n gywir, ac mae’r broblem a ganfuwyd yn ymwneud â sut caiff y data hwn ei rannu. Mae’r broblem hon wedi’i datrys bellach.”
Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y meirw oherwydd oedi yn y broses o adrodd am yr achosion hyn.
“Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’i asiantaethau partner i sicrhau ein bod yn darparu’r wybodaeth fwyaf cywir, ddiweddaraf sydd ar gael ar COVID-19 i’r cyhoedd.”
Ffigurau diweddaraf
Bwrdd Iechyd | Marwolaethau * |
BIP Aneurin Bevan
(Gwent) |
213 |
BIP Betsi Cadwaladr
(Gogledd Cymru) |
88 |
BIP Caerdydd a’r Fro | 157 |
BIP Cwm Taf Morgannwg
(Rhan helaeth o’r Cymoedd) |
148 |
BIP Hywel Dda
(Dyfed) |
** |
BIA Powys | ** |
BIP Bae Abertawe
(Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot) |
131 |
Cyfanswm | 751 |
* Roedd y wybodaeth uchod yn gywir ar Ebrill 23
** Mae nifer y meirw yn ardaloedd y Byrddau Iechyd yn gallu bod yn isel iawn, yn ôl y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly ni fydd yr union ffigwr yn cael ei ddatgelu er mwyn cadw’r meirw yn anhysbys.