Mae athrawon ysgolion uwchradd Ceredigion wedi cynhyrchu mwy na 2,800 o feisors mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Bydd y feisors yn cael eu defnyddio gan weithwyr allweddol er mwyn gwarchod eu hwynebau rhag feirws y corona.
Bu pob un o adrannau Dylunio a Thechnoleg ysgolion uwchradd y sir yn rhan o’r broses o greu’r feisors, sef: Ysgol Henry Richard, Ysgol Penglais, Ysgol Penweddig, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Bro Teifi.
“Athrawon yn mynd yr ail filltir i helpu”
Mae athrawon ysgolion uwchradd Ceredigion wedi creu feisors o blastig gan ddefnyddio peiriannau laser neu beiriannau argraffu 3D yr ysgolion, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn darparu’r deunyddiau.
Mae feisors yn angenrheidiol i ddiogelu gweithwyr rheng-flaen.
“Rydym yn hynod falch o’n gweithlu, ac mae ymroddiad anhygoel staff ein hadrannau Dylunio a Thechnoleg i ddarparu feisorau angenrheidiol yn un enghraifft o’r modd y mae athrawon Ceredigion wedi mynd yr ail filltir i helpu eraill,” meddai Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion, Meinir Ebbsworth.