DARN BARN gan Dylan Iorwerth…

Felly, mae Boris ar ei ffordd yn ôl. Gobeithio y bydd yn dychwelyd yn sobreiddiach dyn. Ac yn llai hunandybus.

Un peth mawr y bydd angen  iddo edrych arno ar unwaith ydi delio â’r cam anferth sydd wedi ei wneud â phobol oedrannus a’u gofalwyr.

Mi fydd rhaid gofyn a gawson nhw eu hanghofio neu eu gadael ar drugaredd y clefyd, i’r graddau nad yden ni ddim hyd yn oed yn gwybod faint ohonyn nhw sydd wedi marw o’r Covid nac yn profi mwy na llond llaw mewn cartrefi.

Wedi’r clapio haeddiannol bob nos Iau, yr angen mawr fydd gwneud yn siŵr bod y sector yma, yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd, yn cael yr adnoddau a’r cynllunio strategol y maen nhw ei angen. Dyna fyddai cydnabyddiaeth.

Nid bod yn ddoeth wrth edrych yn ôl ydi dweud bod y diffyg paratoi’n ddifrifol (nid yng ngwledydd Prydain yn unig chwaith) – roedd arbenigwyr rhyngwladol wedi dweud bod yr union fath yma o glefyd yn sicr o ddod ac ar ba fath o bobol y byddai’r effaith fwya’.

Yn amlwg, doedd neb wedi meddwl yn iawn am oblygiadau cau pobol oedrannus mewn cartrefi lle’r oedd y clefyd yn cydio a lle nad oedd gan staff yr adnoddau, y cyfarpar na’r profiad meddygol i ddelio â nhw.

Mae meddwl am ddioddefaint ac unigrwydd pobol, er gwaetha’ ymdrechion y gofalwyr, yn brifo.

Angen mwy na chlapio

Ynghanol rhethreg rhyfelgar yr argyfwng, mi ddylen ni gofio’r brolio cyson sydd wedi bod ar y genhedlaeth hon – y genhedlaeth a gynhaliodd y ‘genedl’ trwy oriau tywyll yr Ail Ryfel Byd. Beth am hynny rŵan?

Mae’r arwr, Captain Tom, yn lwcus. Pe bai’n mynd yn wael mewn cartref gofal, mae yna amheuon a fyddai’n cael y driniaeth a allai achub ei fywyd.

Ac mi fydd yn brifo os bydd preswylwyr catrefi gofal yn gorfod cael eu hynysu eto am amser hir, yn ôl y disgwyl. Mi fydd methu â gweld teuluoedd a ffrindiau yn chwalu blynyddoedd ola’ llawer ohonyn nhw. Os ydi’r amser ar ôl yn fyr,  mae’n fwy gwerthfawr hefyd.

Mae yna bosibiliadau. Mi allai’r Llywodraeth, er enghraifft, wario ar stafelloedd arbennig ym mhob cartre’, lle gall preswylwyr a theulu a ffrindiau gwrdd ar ddwy ochr panel gwydr, i ganiatáu sgwrsio a gweld, heb beryglu iechyd. A rhoi adnoddau i’r cartrefi sefydlu a gweinyddu hynny.

Os ydi’r cyfyngiadau’n parhau am fisoedd; rhaid meddwl am syniadau tebyg. Ac, os na fydd Boris yn awyddus i wneud hynny yn Lloegr, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu – maen nhwthau yn yr un cwch.