Bydd Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi fframwaith a saith cwestiwn allweddol i arwain Cymru allan o’r pan demig coronafeirws heddiw (dydd Gwener Ebrill 24)

Gan atgoffa’r cyhoedd bod y mesurau hunan-ynysu presennol “yn aros mewn grym,” bydd Mark Drakeford yn cyflwyno cyfyngiadau newydd i rwystro’r feirws rhag lledaenu, tra hefyd yn ychwanegu consesiynau i bobl sydd ag anableddau.

Dyma’r saith cwestiwn allweddol:

  • A fyddai llacio’r cyfyngiadau’n cael effaith negyddol ar reoli’r feirws?
  • A yw mesur penodol yn creu risg isel o haint pellach?
  • Sut gellir monitro a gorfodi mesurau sydd wedi eu llacio?
  • A oes modd ei wyrdroi’n gyflym os bydd llacio’r cyfyngiadau yn creu canlyniadau anfwriadol?
  • A oes mantais economaidd bositif i lacio’r rheolau?
  • A yw’n cael effaith bositif ar les pobl?
  • A yw’n cael effaith bositif ar gydraddoldeb?

Rheoliadau newydd

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cyhoeddi rheoliadau newydd fydd yn cael eu hychwanegu i’r lockdown yng Nghymru.

Bydd yn gofyn i bobl sy’n gadael eu cartrefi er mwyn ymarfer corff neu nôl bwyd, i beidio ag aros tu allan ar ôl cwblhau’r weithred.

Bydd y trefniant newydd hefyd yn caniatáu  i bobl sydd â chyflwr iechyd penodol neu anableddau, gan gynnwys anabledd dysgu ag awtistiaeth, i ymarfer corff fwy nag unwaith y diwrnod.

Wrth lansio’r fframwaith, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae ein dull ni o weithredu hyd yma wedi cynnwys cyfyngiadau symud. Rydym ni wedi rhoi camau digynsail ar waith i warchod pawb, ond yn benodol y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol.

“Rydyn ni’n parhau i adolygu’r rheoliadau hyn yn gyson. Rydyn ni’n gwybod y bydd y coronafeirws gyda ni am amser hir eto ond rydyn ni eisiau gweld a oes pethau y gallwn ni eu gwneud wrth i ni barhau i fynd i’r afael â’r feirws a pharhau i chwilio am well triniaethau a brechlyn.”

Newidiadau eraill yn dod i rym ddydd Sadwrn

Bydd newidiadau eraill yn dod i rym ddydd Sadwrn (Ebrill 25).

Maen nhw yn cynnwys ymestyn y rheol ymbellhau cymdeithasol dau fetr i adeiladau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau “clicio a chasglu,” yn ogystal â chaffis mewn ysbytai, cantîns ysgolion, carchardai ac i’r lluoedd arfog.

Bydd diffiniad person bregus yn cael ei ehangu i gynnwys grwpiau penodol eraill â chyflyrau lle mae angen cymorth, gan gynnwys dementia.