Mae ymchwil newydd yn amcangyfrif y gallai’r pandemig coronafeirws olygu bod gan brifysgolion Cymru £98 miliwn yn llai i’w wario, wrth i lai o fyfyrwyr fynychu cyrsiau.

Yn ôl yr adroddiad gan brifysgol y London School of Economics, mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru’n debygol o golli £96 miliwn mewn ffioedd dysgu yn ogystal â £2 filiwn mewn grantiau dysgu.

Rhagwelir y bydd gostyngiad o 13,250 yn nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf fydd yn mynychu prifysgolion Cymru eleni.

Oherwydd y cwymp mewn niferoedd myfyrwyr, a’r glec ganlynol i’r coffrau,  gallai 1,230 o swyddi fod yn y fantol.

Rhagwelir y gallai nifer y staff sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ostwng o 22,885 i 21,655.