Mae heddwas mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu wrth ymateb i ddigwyddiad yng Nghasnewydd.

Cafodd y swyddog 47 oed ei drywanu wrth ymateb i adroddiadau o anrhefn mewn tŷ yn Lôn St Vincent, Casnewydd, yn ystod oriau man bore dydd Iau (Ebrill 23).

Dywed Heddlu Gwent fod y swyddog, sy’n dod o ardal Casnewydd, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent lle mae ei gyflwr yn sefydlog.

Y fuan ar ôl i swyddogion gyrraedd y tŷ, dechreuodd tân yno.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ddiffodd y tân.

Cafodd swyddog arall 33 oed ei gludo i’r ysbyty gydag effeithiau anadlu mwg ac mae o bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae dyn yn ei dridegau o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio lladd swyddog yr heddlu yn ogystal â chynnau tan yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Mark Johnson, sydd yn arwain yr ymchwiliad.

“Mae hwn yn ein hatgoffa bod ein swyddogion, er gwaethaf y sialensiau o weithredu o dan gyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, yn gweithio’n ddiflino i gadw cymunedau’n saff – rydym yn dymuno gwellhad buan i’r swyddog.”