Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Ebrill 24) eu bod am gynnal Eisteddfod ddigidol fydd yn galluogi pobl i gystadlu ond ar lwyfan ychydig yn wahanol i’r un arferol.

Mae’n dilyn y penderfyniad i ohirio Eisteddfod Sir Ddinbych 2020 tan 2021.

Bydd y cystadleuwyr yn cystadlu yn ddigidol drwy uwch-lwytho fideos, clipiau a lluniau o berfformiadau a chynnyrch, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu darlledu mewn rhaglenni ar S4C, gwefan S4C ac ar BBC Radio Cymru.

Bydd Eisteddfod T (sy’n chwarae ar y geiriau ti a tŷ) yn cychwyn ar Fai 25, sef yr wythnos pryd yr oedd Eisteddfod Sir Ddinbych i fod i’w chynnal.

Mae’r rhestr testunau a chyfarwyddiadau sut i gystadlu ar wefan www.S4C.cymru/urdd, sydd nawr ar agor i gystadleuwyr.

Yn ogystal â chystadlaethau traddodiadol fel cerdd-dant  a chorau, mae cystadlaethau eraill mwy anffurfiol – dynwared, lip-sync a chystadlaethau i’r teulu i gyd

Mae dyddiad cau’r cystadlu am hanner dydd ar Fai 11.

“Arbennig”

“Mi fydd Eisteddfod T yn arbennig,” meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Sian Eirian.

“Roedd yr Urdd yn benderfynol o gael Eisteddfod mewn ryw ffurf a darparu cyfle i blant a phobl ifanc lle mae’r Eisteddfod yn gymaint o ran o’u calendr.

“Mi fydd Eisteddfod T yn cynnig cyfle am gystadlaethau arferol, ar lwyfan ychydig yn wahanol, a chael ychydig o hwyl yn ogystal.”

“Cynllun arloesol”

Tra bod Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees wedi dweud: “Bydd S4C yn dod â holl dalentau gorau Cymru i chi, a hynny o gartrefi cannoedd o gystadleuwyr ledled y wlad.

“Ry’n ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun arloesol hwn gyda’r Urdd a byddwn yn darlledu yn ddigidol ac yn llinol gyda rhaglen uchafbwyntiau hefyd bob nos. Yn sicr mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad i’w gofio!”

“Hwyl yr ŵyl newydd a gwahanol”

Dywed Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru: “A ninnau mewn cyfnod anodd i bawb, gan gynnwys ein pobl ifanc, mae’n braf iawn cael cydweithio efo’r Urdd i ddod â hwyl yr ŵyl newydd a gwahanol hon i wrandawyr BBC Radio Cymru. Mi fydd Eisteddfod T yn gyfle i ni ddarlledu doniau a thalentau newydd Cymru, o gartrefi’r cystadleuwyr,  i ddegau o filoedd o dai ar hyd y wlad, gyda rhai o leisiau adnabyddus yr orsaf yn llywio’r arlwy. Rydyn ni’n edrych ‘mlaen yn fawr ac yn falch o gael y cyfle hwn i geisio codi calonnau’r genedl.”

Gyda thestunau Eisteddfod Sir Ddinbych 2020 wedi eu rhewi tan flwyddyn nesaf, mae holl destunau Eisteddfod T yn newydd, a’r mwyafrif yn hunan-ddewisiad. Bydd Eisteddfod T hefyd yn cynnig prif wobrau llenyddol, cerdd, drama, celf ac i ddysgwyr yn ystod yr wythnos.