Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r rheoliadau aros gartref yng Nghymru er mwyn parhau i atal lledaeniad y coronafeirws.

Mae’r rheol i bobl beidio â gadael y lle ble maen nhw’n byw wedi newid i ofyniad i beidio â gadael neu aros o’r lle hwnnw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd hyn yn helpu i esbonio i bobl sy’n gadael eu cartref gydag esgus rhesymol – fel mynd allan i siopa am fwyd, ar gyfer gofal iechyd neu i’r gwaith – nad ydyn nhw’n gallu aros allan i wneud pethau eraill.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, maen nhw wedi adolygu’r rheolau sydd mewn grym eisoes mewn “ymateb i rai heriau sy’n cael eu hwynebu mewn rhannau o’r wlad a chan deuluoedd ledled Cymru.”

Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bedwar heddlu Cymru am gyngor i drafod os oes angen i’r ddarpariaeth bresennol i atal pobl rhag teithio i ail gartrefi yng Nghymru gael ei chryfhau ymhellach.

“Ymarfer mwy nag unwaith”

Mae rhai addasiadau newydd sy’n caniatáu i bobl sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau penodol adael cartref i ymarfer fwy nag unwaith y dydd. Bydd hyn yn helpu teuluoedd a phlant sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn benodol, meddai Llywodraeth Cymru.

Daw’r newidiadau i rym wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi heddiw (dydd Gwener Ebrill 24) fframwaith newydd i helpu i arwain Cymru allan o’r pandemig.

Bydd hyn yn helpu i benderfynu pryd daw’r amser priodol i’r cyfyngiadau aros gartref gael eu llacio.

“Camau digynsail”

Wrth gyhoeddi’r newidiadau i’r rheoliadau heddiw, sy’n dilyn yr adolygiad tair wythnos statudol cyntaf o’r gyfraith, dywedodd Mark Drakeford:

“Mae’r cyfyngiadau’n parhau, sy’n golygu bod rhaid i chi aros gartref i achub bywydau a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd camau digynsail i warchod pawb, ond yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol. Mae’r dull hwn o weithredu wedi helpu’r GIG i baratoi ac ymdopi â’r coronafeirws ac mae wedi helpu hefyd i achub llawer o fywydau.

“Mae’r newidiadau rydyn ni’n eu cyflwyno’n ategu’r rheolau sydd mewn grym eisoes ond maen nhw’n ymateb i rai heriau sy’n cael eu hwynebu mewn rhannau o’r wlad a chan deuluoedd ledled Cymru.

“Nid yw ein neges ni wedi newid – fe all unrhyw un ddal y coronafeirws, ac fe all unrhyw un ei ledaenu. Felly plîs, arhoswch gartref, gwarchod y GIG, ac achub bywydau.”

Mae’r newidiadau eraill, sy’n dod i rym toc wedi hanner nos ddydd Sadwrn (Ebrill 25), yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithredu’r ddyletswydd cadw pellter corfforol o 2m mewn eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau “clicio a chasglu” – mae’r ddyletswydd hon yn ei lle eisoes ar gyfer gweithleoedd eraill, sy’n parhau ar agor;
  •  Ehangu’r diffiniad o berson agored i niwed i gynnwys grwpiau neu gyflyrau penodol eraill lle gall pobl elwa o gymorth ac y mae darparu cyflenwadau iddyn nhw yn esgus rhesymol i berson arall adael ei gartref (er enghraifft, pobl â dementia);
  • Ymestyn y ddyletswydd cadw pellter corfforol i gaffis sy’n agored i’r cyhoedd mewn ysbytai, a’r rhai sy’n gyfrifol am y ffreutur mewn ysgolion, carchardai ac ar gyfer eu defnyddio gan y lluoedd arfog, i sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei roi ar waith.
  • Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bedwar heddlu Cymru ddarparu cyngor pellach ynghylch a oes angen i’r ddarpariaeth bresennol i atal pobl rhag teithio i ail gartrefi yng Nghymru gael ei chryfhau ymhellach.