Mae’r cyhoeddwyr Atebol wedi prynu Canolfan Astudiaethau Addysg Cymru gan Brifysgol Aberystwyth.

Daeth Prifysgol Aberystwyth â CAA Cymru i ben y llynedd gan ddiswyddo pedwar o bobol yn y broses.

Glyn Saunders Jones yw sylfaenydd Atebol ac mae CAA Cymru yn agos iawn at ei galon, gan mai ef oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ganolfan ym 1982.

“Cyn y Ganolfan, roedd gofyn i athrawon Cymru greu adnoddau addysgol eu hunain yn y Gymraeg”, meddai Glyn Saunders Jones.

“Rydw i’n ddiolchgar iawn i staff CAA am eu gwaith gwych dros y blynyddoedd.

“Rydym yn wirioneddol falch bod Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi eu ffydd ynom i gynnal a datblygu’r cyfraniad hwnnw i’r dyfodol.”

Wrth groesawu’r datblygiad, dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth ei fod yn dymuno’n dda i’r cwmni.

“Rydym yn falch y bydd y brand yn parhau yng ngofal cwmni lleol a’r enw yn parhau i gael ei gysylltu gyda chynhyrchu cyhoeddiadau addysgiadol o safon.”

Ymateb i’r cwricwlwm newydd

Mae Owain Saunders Jones, Cyfarwyddwr Atebol yn hyderus am ddyfodol y diwydiant ac yn awyddus iawn i ymateb i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio ag eraill i sicrhau bod gan y sector addysg yr adnoddau gorau posibl i ymateb i’r cwricwlwm newydd.”

Y cyhoeddwyr addysgol mwyaf yng Nghymru

Mae’r datblygiad diweddaraf yn golygu mai Atebol yw’r cyhoeddwyr addysgol mwyaf yng Nghymru ac mae Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o ddatblygiad y cwmni.

“Rydym yn falch iawn bod Atebol yn parhau i dyfu.

“Mae’n hynod galonogol gweld busnes wedi’i leoli yng nghefn gwlad yn gwneud buddsoddiad sylweddol fel hyn.

“Mae’n newyddion da i’r diwydiant llyfrau ond hefyd i economi sylfaenol Cymru.”

Cefndir y cwmni

Sefydlwyd Atebol yn 2004 gan Glyn a Gill Saunders Jones, gyda’r nod o greu darpariaeth ehangach o lyfrau difyr, gemau a deunyddiau amlgyfrwng.

Erbyn hyn mae’r meibion Dafydd, Owain a Siôn Saunders Jones yn rhan o’r cwmni sy’n cynnig gwasanaeth cyhoeddi, cyfieithu ac is-deitlo.

Mae gan y cwmni swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a Chanolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin.