Mae pêl-droediwr rhyngwladol amlycaf Cymru wedi cyfrannu £500,000 at yr ysbyty lle cafodd ei eni – i gydnabod gwaith ‘anhygoel’  y Gwasanaeth Iechyd.

Cyflwynodd Gareth Bale yr arian i Elusen Caerdydd a’r Fro, sy’n darparu pethau ychwanegol i staff a chleifion nad yw cyllid arferol yn talu amdano.

Mewn neges drwy fideo, dywed Gareth Bale, sy’n fyd-enwog fel un o sêr disgleiriaf Real Madrid:

“Dwi eisiau diolch i bawb yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am eu gwaith caled a’u haberth yn ystod yr argyfwng Covid-19.

“Mae gan Ysbyty Prifysgol Cymru le arbennig yn fy nghalon – cefais fy ngeni yno.

“Mae wedi rhoi cefnogaeth wych imi a fy ffrindiau yn ogystal â’r gymuned ehangach.

“Daliwch ati gyda’r gwaith caled, rydych yn gwneud gwaith anhygoel a diolch yn fawr iawn.”

Wrth chwarae i Real Madrid, mae Gareth Bale wedi sgorio dros 100 o goliau, wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith, yn ogystal ag

ennill cynghrair La Liga a chwpan Copa del Rey.

“Hoffwn ddweud diolch mawr i Gareth, Emma a’u teulu am y cyfraniad arbennig hwn,” meddai prif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r fro, Len Richards.

“Diolch o galon.”