Bydd dros £800,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i’w helpu i oroesi’r argyfwng o fethu â chynnal y ddwy wyl eleni.

Mae’r ddwy Eisteddfod wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cael eu cynnal eleni yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, gydag Eisteddfod Ceredigion wedi’i gohirio tan 2021.

Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan:

“Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddau ddigwyddiad o bwys yng nghalendr digwyddiadau Cymru, sy’n darparu llwyfan gwych i arddangos ein celfyddydau a’n diwylliant.  Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r trefnwyr i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i’w helpu i greu dyfodol cynaliadwy.

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffurf bresennol wedi bod yn cynnal y digwyddiad ers ymhell dros gan mlynedd. Ar adegau anodd fel hyn, mae’n bwysig cydnabod a chynnig treftadaeth ddiwylliannol gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â meithrin artistiaid Cymraeg y dyfodol a darparu llwyfan ar eu cyfer a chefnogi celfyddydwaith a llenyddiaeth newydd.”

Un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes yr Eisteddfod

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol,

“Fel pawb arall, mae’r pandemig hwn wedi rhoi cryn ergyd i’r Eisteddfod. Nid yn unig y bu’n rhaid inni ohirio’r ŵyl am flwyddyn ond bu’n rhaid inni hefyd atal yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yng  Ngheredigion a Gwynedd am y tro.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes yr Eisteddfod.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru,” meddai Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

“Fel y gallwn barhau i hyrwyddo diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a lledaenu’r neges heddwch ledled y byd. Bydd heriau i bob gŵyl yn y dyfodol, felly cydweithio yw’r allwedd.”