Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n gweithio 24 awr y dydd i sicrhau diogelwch a llesiant y gweithwyr allweddol sy’n defnyddio’u gwasanaethau, fel rhan o’i ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Dros y chwe wythnos diwethaf, mae glanhawyr ychwanegol wedi cael eu cyflogi ar gyfer y shifftiau dydd a nos mewn depos trenau ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ac mae yna hefyd ddeunyddiau glanhau ychwanegol ar gael ar drenau.

“Mae diogelwch a llesiant ein cwsmeriaid – gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n weithwyr allweddol – yn flaenoriaeth lwyr i ni yn ogystal â diogelu ein staff sy’n cadw’r rhwydwaith rheilffyrdd yn rhedeg,” meddai Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

“Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrth-feirysol sy’n diogelu am saith niwrnod, ac rydyn ni’n glanhau trenau’n drwyadl o leiaf bob 24 awr, ac rydyn ni’n glanhau pwyntiau cyswllt amlwg yn rheolaidd fel byrddau, dolenni ac unrhyw le lle mae pobol yn rhoi eu dwylo’n rheolaidd.

“Rydyn ni wedi cynyddu ein timau glanhau i wella ein capasiti ar gyfer y gwaith glanhau ychwanegol sydd ei angen ac rydyn ni wedi rhoi’r offer angenrheidiol iddynt er mwyn iddyn nhw aros yn ddiogel eu hunain.

“Fel gweithwyr allweddol, mae pob un ohonyn nhw’n gwneud gwaith rhyfeddol.” 

Hanfodol

Mae Trafnidiaeth Cymru newydd lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fer i annog eu cwsmeriaid i aros gartref ac mae’r ffigurau diweddar yn dangos bod nifer y teithwyr wedi disgyn 95%.

Maen nhw’n rhedeg 500 o wasanaethau bob dydd i ddarparu cysylltiadau hanfodol i weithwyr hanfodol ac mae gweithwyr y gwasanaeth Iechyd yn cael teithio am ddim.

“Wrth i ni barhau i wynebu’r argyfwng yma mae’n hollbwysig ein bod yn galluogi ein gweithwyr allweddol i ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth hanfodol ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud hyn o dan amgylchiadau heriol iawn,” meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth.

“Rydym felly’n croesawu’r ffaith y bydd eu gwaith glanhau yn ehangu er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn lân, yn parhau i weithredu ac yn cefnogi ein gwlad yn ystod cyfnod mor anodd.”