Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn ceisio darganfod faint o bobl sydd wedi marw o’r coronferiws mewn sefydliadau gofal cymdeithasol.

Mae llefarydd gofal cymdeithasol y blaid, yr Aelod Cynulliad Janet Finch-Saunders  hefyd wedi gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i’w bwrdd iechyd lleol er mwyn ceisio darganfod faint o breswylwyr lleol sydd wedi marw mewn cartrefi preswyl a nyrsio.

Dywedodd bod gwybodaeth am effaith Covid-19 ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn “brin”.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Janet Finch-Saunders  wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:  “Nid yw’r wybodaeth gen i ar hyn o bryd ynglŷn â nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal sydd wedi cael eu heintio gan Covid-19 ac sydd wedi marw o ganlyniad, nac yn lle maen nhw wedi marw.”

Dywedodd Janet Finch-Saunders heddiw (Dydd Llun, Ebrill 20) bod angen “tryloywder” i sicrhau bod y rhai sydd yn wynebu’r risg mwyaf o’r feirws ddim yn cael eu hesgeuluso o’r ystadegau swyddogol.

“Miloedd yn fwy”

Daw ei sylwadau wrth i ymchwil i farwolaethau sy’n gysylltiedig hefo Covid-19 mewn cartrefi gofal  awgrymu fod miloedd yn fwy wedi marw na’r hyn sy’n cael ei gofnodi mewn ffigurau swyddogol.

Mae’r Fforwm Gofal Cyhoeddus, sydd yn cynrychioli darparwyr gofal dielw, yn amcangyfrif fod mwy na 4,000 o bobl wedi marw ar ôl cael eu heintio gan y firws mewn cartrefi gofal cyn Ebrill 13.

Mae’r rhif yma’n sylweddol uwch na’r ffigurau wythnosol swyddogol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a noddodd 217 o farwolaethau yn gysylltiedig â chartrefi gofal hyd at Ebrill 13.

Meddai Vic Rayner, prif weithredwr y Fforwm Gofal Cyhoeddus: “Ar hyn o bryd, mae’r ddadl genedlaethol bresennol ar sut i ddianc o’r argyfwng yma yn canolbwyntio ar reoli’r nifer mewn ysbytai.

“Rydyn ni’n cau ein llygaid i sut mae’r argyfwng yn datblygu mewn sefyllfaoedd eraill, y llefydd sydd yno i warchod y rhai mwyaf bregus i effeithiau’r firws.”

Fe alwodd hi ar Lywodraeth Prydain i ddarparu cyfarpar diogelwch personol (PPE) i gartrefi gofal yn ogystal â theclynnau monitro, profion, cyllid ac ymchwil.

“Tan y bydd profion yn cael eu cynnal, dydyn ni ddim yn gwybod.”

Yn ôl ‘Gofal Lloegr’ sydd yn cynrychioli busnesau gofal annibynnol, gallai hyd at 7,500 o bobl fod wedi marw ar ôl cael eu heintio gan coronafeirws mewn cartrefi gofal.

Wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock y bydd pob preswylydd  a staff mewn cartref gofal sydd yn dangos symptomau o Covid-19 yn cael eu profi.

Addawodd hefyd y bydd data ar breswylwyr sydd yn marw o’r firws ar gael “yn fuan iawn.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i’r mater.