Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi amddiffyn ei benderfyniad i roi’r gorau i osod targed ar gyfer cynnal profion y coronafeirws.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn yr ail neu’r drydedd wythnos ym mis Ebrill ond roedd wedi gostwng i lai na 1,000 erbyn dydd Sul (Ebrill 19).

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi cael cyngor bod y targed yn gyraeddadwy pan gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf ond eu bod wedi gorfod gostwng y nifer oherwydd amgylchiadau “y tu allan i’n rheolaeth ni”.

Mae adolygiad o’r profion wedi cael ei gyhoeddi, gyda chynlluniau i symleiddio’r system.

“Dy’n ni ddim yn mynd i gyrraedd y ffigwr o 5,000 roedden ni wedi gobeithio erbyn canol y mis hwn,” meddai Mark Drakeford.

“Sgandal”

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r penderfyniad gan ddweud ei fod yn “sgandal” ac wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod a “hanes” o ollwng targedau nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd.

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth: “Gyda llai na 1,000 o brofion yn cael eu cynnal mewn diwrnod maen nhw wedi gollwng y targedau yn gyfan gwbl. Mae’n sgandal. Mae cynnal profion yn gorfod bod yn flaenoriaeth.”

Daw’r newyddion wrth i naw o bobl eraill farw o Covid-19 yng Nghymru gan ddod a’r cyfanswm i 584.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod ’na dystiolaeth bod nifer yr achosion newydd o’r feirws yn dechrau gostwng yn raddol ac y gallai hynny fod oherwydd “effeithlonrwydd” y cyfyngiadau presennol.

Dywedodd Mark Drakeford bydd angen system o brofion cymunedol unwaith fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi gan ei bod i’w ddisgwyl y bydd y feirws yn cynyddu yn y gymuned mewn rhai llefydd pan fydd hynny’n digwydd.