Fydd ysgolion Cymru ddim yn agor eto “hyd nes y bydd yn ddiogel” iddyn nhw wneud hynny, yn ôl Kirsty Williams.

Roedd Ysgrifennydd Addysg Cymru’n ymateb i “straeon nad ydyn nhw’n helpu”, wrth gyfeirio at ysgolion Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, er bod addysg wedi’i ddatganoli yng Nghymru.

Yn ôl adroddiadau yn Lloegr, sydd wedi cael eu hwfftio gan Lywodraeth Prydain, mae ysgolion wedi bod yn paratoi i agor eto mor gynnar â mis nesaf, efallai, ond yn sicr erbyn hanner tymor mis Mehefin neu ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi.

Mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, dywed Kirsty Williams fod cynlluniau ar y gweill yng Nghymru i agor ysgolion yn raddol yn y pen draw, ac y byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud “ar sail tystiolaeth, ymgynghoriad ac amseru cywir”.

Cynhadledd

Mae’r llif negeseuon ar dudalen Twitter Kirsty Williams yn gysylltiedig â fideo, lle mae hi’n egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gau ysgolion yn sgil y coronafeirws.

Yn y fideo, mae hi’n dweud ei bod hi “mor awyddus ag unrhyw un i agor ysgolion eto”.

“Ond fydda i ddim ond yn gwneud y penderfyniad hwnnw pan gaf fi gyngor gan ein Prif Swyddog Meddygol a’n Prif Swyddog Gwyddonol ei bod yn ddiogel i wneud hynny,” meddai wedyn.

“Ar hyn o bryd, dw i ddim wedi derbyn y cyngor hwnnw, ond dyna pryd y bydd ysgolion yn agor eto, pan fydd hi’n ddiogel i’r staff a’r plant fod yn ôl yn yr ysgol.”