Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd mwy o weithwyr allweddol yn cael eu profi ar gyfer y coronafeirws, fel bod modd iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith yn gynt.

Y gobaith yw y bydd datrysiadau technoleg, cefnogaeth gan y filwriaeth a dileu’r cap ar arallgyfeirio gweithwyr cymdeithasol yn cyflymu’r system fel bod modd cynnal mwy o brofion bob dydd.

Daw’r atebion posib yn dilyn adolygiad yn sgil pryderon nad oedd digon o brofion yn cael eu cynnal.

Mae’r argymhellion, sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gweinidog, yn cynnwys:

  • Gwaith i ddarparu platfform archebu ar y we i gael gwared ar fiwrocratiaeth.
  • Cael gwared ar y terfyn uchaf ar atgyfeiriadau ym mhob awdurdod lleol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Fforymau Cadernid Lleol i adolygu a diwygio’r broses gyfeirio ar gyfer profi gweithwyr hanfodol.
  • Y fyddin i edrych ar y prosesau gweithredol ac i gyflymu’r system a’i gwneud yn fwy effeithlon.

Ymateb

“Rydyn ni’n cynyddu ein capasiti i brofi yng Nghymru drwy ein hunedau profi cymunedol, cyflwyno canolfannau gyrru heibio rhanbarthol ar gyfer profi ac, o fewn wythnosau, gwasanaeth profi gartref ar-lein,” meddai Vaughan Gething.

Gan nad yw nifer dyddiol y profion wedi bod yn cyfateb i’r capasiti rydyn ni wedi’i greu yng Nghymru, rwyf wedi trefnu adolygiad cyflym o’r system bresennol.

“Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o argymhellion i gyflymu’r broses o atgyfeirio gweithwyr allweddol ar gyfer eu profi. Rwyf wedi derbyn y rhain i gyd i gael eu gweithredu ar unwaith.

“Heddiw, rwyf hefyd wedi cyhoeddi ein polisi profi gweithwyr hanfodol sy’n amlinellu pa weithwyr fydd yn cael eu profi a sut.

“Rydw i eisiau gweld cynnydd cyflym mewn profi gweithwyr hanfodol ledled Cymru fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt a bod â hyder i wneud eu gwaith yn ddiogel.

“Mae eu cyfraniad at atal lledaeniad y coronafeirws a’n cadw ni i gyd yn ddiogel yn amhrisiadwy.”