Mae Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w hymgyrch i alw ar bobl i wrthod talu’r drwydded ddarlledu.

Penderfynodd y Gymdeithas roi terfyn ar yr ymgyrch yn ystod eu cyfarfod misol yn Aberystwyth gan ddatgan y byddan nhw o hyn allan yn canolbwyntio ar weld y cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru yn cael ei ddatganoli i’r cynlluniad.

Roedd y Gymdeithas hefyd yn pwysleiso bod yr aelodau yn parhau yn anfodlon efo’r penderfyniad i drosglwyddo’r cyfrfioldeb am ariannu S4C i’r BBC.

“Mae’r ymgyrch yma wedi bod yn hynod lwyddianus,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas Bethan Williams “ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymeryd rhan.”

Ychwanegodd nad oedd Cymdeithas yr Iaith yn credu bod y cytundeb rhwng S4C a’r BBC yn un democrataidd ac nad yw chwaith yn cyflawni holl ofynion y Gymdeithas o safbwynt cynnal y sianel.