Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cadarnhau bod sawl chwaraewr wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Daw’r newyddion ar ôl i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei gohirio yn sgil y feirws fis diwethaf.

Mae’n dweud bod “dau neu dri” chwaraewr wedi profi’n bositif.

“Mae’n rhwygo trwy gymunedau yma,” meddai wrth 1 NEWS.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni wedi cael dau neu dri achos dw i’n ymwybodol ohonyn nhw yn y garfan.”

Mae lle i gredu bod y chwaraewyr wedi gwella erbyn hyn.

Mae disgwyl i Gymru deithio i herio Japan ar Fehefin 27, cyn wynebu Seland Newydd yno ar Orffennaf 4 ac 11.

Yn ôl Wayne Pivac, does “neb” eisiau gweld y gemau’n cael eu canslo, gan fod “angen yr arian er mwyn i’r gêm oroesi”.