Dylai bod staff gofal yn derbyn yr un cyflogau – a thelerau ac amodau cyflogaeth – a staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Dyna mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru yn y Senedd tros faterion iechyd, wedi ei ddweud yn ymateb i heriau’r coronafeirws.

Mae’r Aelod Cynulliad yn dadlau bod gweithwyr gofal – y rheiny sy’n gofalu am blant, pobol anabl ac ati – yn peryglu eu bywydau i’r un eithaf a gweithwyr meddygol.

Ac mae’n teimlo y dylid cydnabod hynny trwy gynyddu eu tâl a gwella amodau eu cyflogaeth.

Un o’i bryderon yw bod gweithwyr gofal yn aml ar gontractau anwadal.

Pendraw’r “hunllef”

Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn galw am godiad cyflog i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, ac mae’n tynnu sylw at yr angen i ganmol eu gwaith – ynghyd â gwaith gweithwyr gofal.

“Ar ben arall yr hunllef yma dw i’n gobeithio y gwnawn ni gofio cymaint yr ydym yn trysori ein gwasanaethau iechyd a gofal,” meddai.

“Hefyd, rhaid i ni sylweddoli bod yn rhaid i ni dalu amdanyn nhw’n iawn. Os ydym ni eisiau gwasanaeth iechyd a gofal sydd yn dda ac yn gynaliadwy, rhaid i ni dalu amdano.

“Rhaid i ni ffeindio’r adnoddau iawn, y bobol iawn, sy’n cael eu talu’n iawn, ac sydd ddim â phwysau gwaith anghynaladwy.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.