Mae ditectif sy’n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed o Dremorfa yng Nghaerdydd wedi cyhuddo dyn, 32 oed, o geisio llofruddio

Fe fydd Keiron Alexander Hassan o Drelái yn mynd gerbron Ynadon Caerdydd heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 17).

Mae’r ddau ddyn arall gafodd eu harestio yn gynharach ddydd Iau (Ebrill 16) yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae’r dyn 21 oed yn parhau i gael cymorth gan swyddogion yr heddlu.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n parhau i apelio am dystion neu wybodaeth ynglŷn â’r mater.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r rhif cyfeirnod 125586.