Mae tri phlismon wedi cael eu canmol am eu hymdrechion i achub bywyd dynes fu farw yn dilyn tân yn ei chartref yn Abergele ddydd Mawrth.
Ar ôl derbyn galwad frys gan gymdogion, llwyddodd y plismyn i dynnu’r ddynes o’r tân, ond bu farw’n ddiweddarach mewn ysbyty.
Meddai’r Rhingyll Kevin Smith: “Rydym yn cydymdeimlo â’i theulu a’i ffrindiau. Ymatebodd y plismyn ar unwaith, a hoffem eu canmol nhw a’r trigolion lleol wrth geisio achub bywyd y ddynes oedrannus hon.
“Diolch hefyd i’r cymdogion a helpodd y plismyn ac i’r gwasanaethau achub a wnaeth drin y plismyn yn y fan a’r lle am effaith anadlu mwg a mân anafiadau llosgi.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n ymchwilio ar y cyd i achos y tân.