Gallai grŵp ymgyrch newydd sbon Yes Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol “gryfhau’r ymdeimlad o reoli ein hunain”, yn ôl ei sylfaenydd Gwion Hallam.

Gyda’r coronafeirws wedi gorfodi Yes Cymru i ohirio rali Wrecsam ddydd Sadwrn (Ebrill 18), mae’r grŵp Facebook Rali Tŷ Ni wedi bod yn mynd o nerth i nerth gyda bron i ddwy fil o aelodau bellach.

Mae pobol wedi bod yn postio fideos ohonyn nhw eu hunain yn canu, dawnsio, ac yn creu gwisgoedd a gwaith celf arno.

“Postiwn ein fideos o bob math ar hwn – er mwyn dathlu ein gwlad a pharhau i godi llais dros annibyniaeth a thegwch i Gymru,” meddai sylfaenydd y grŵp, Gwion Hallam, ar y dudalen.

A dywed wrth golwg360 fod hwn yn “gyfnod lle mae angen trafod perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig fwy nag erioed o bosib.”

“Wrth gwrs, mae hwn yn gyfnod digynsail, ond dyw cyfnod digynsail ddim yn cyfiawnhau anghyfiawnder,” meddai.

“A dyw’r ffaith bod Cymru a’r Alban yn dod yn ail i Loegr ddim yn ddigynsail a dim ond hunan reolaeth sydd am newid hynny.”

“Codi chwyddwydr ar anghyfiawnder”

Cred Gwion Hallam y gallai’r cyfnod hwn roi hwb i fudiad Yes Cymru er iddyn nhw orfod gohirio gorymdeithiau.

“Mae’n anochel bod pethau’n mynd i gael eu heffeithio ac roedd yn siom gorfod gohirio gorymdeithiau,” meddai.

“Ond yn hytrach nag arafu’r mudiad, credaf y gallai’r cyfnod hwn gryfhau’r ymdeimlad o reoli ein hunain gan ei fod yn codi chwyddwydr ar anghyfiawnder a’r ffaith bod pobol Cymru a’r Alban yn bell i lawr ar restr blaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”